Mae pleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar ar agor!
Fe wnaethom ni gyhoeddi’r newyddion fel sypreis arbennig yn ystod ein darllediad Facebook Live i lansio Llyfr Y Selar neithiwr.
Cynhaliwyd y lansiad yn selar cartref llyfrau mwyaf y wlad, sef Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth gyda Rhys Gwynfor yn cyflwyno. Daeth dyn y foment, Yws Gwynedd draw am sgwrs a chân, ymysg nifer o gyfraniadau eraill.
Yn ogystal ag agor y bleidlais, cyhoeddwyd hefyd bod tocynnau cynnar ar gyfer noson Gwobrau’r Selar bellach ar werth am y pris cynnar o £13 (byddan nhw’n codi i £17 nes mlaen). Ar ôl i chi bleidleisio, byddwch yn cael eich harwain i dudalen lle mae modd prynu tocynnau – felly ewch amdani.
Ers dechrau Tachwedd mae’r Selar wedi bod yn gwahodd enwebiadau ar gyfer 12 categori y gwobrau, ac mae Panel Gwobrau’r Selar, sy’n gymysgedd o gyfranwyr a darllenwyr y cylchgrawn, wedi dewis rhestrau hir ar sail yr enwebiadau hynny.
Nawr, mae’r penderfyniad terfynol ynglŷn â’r enillwyr yn ôl yn eich dwylo chi, y darllenwyr. Bydd y bleidlais yn cau ar 5 Ionawr.
Blwyddyn gofiadwy
“Does dim amheuaeth bod y sin Gymraeg gyfoes yn ffynnu ar hyn o bryd, ac mae 2017 wedi bod yn flwyddyn gofiadwy arall” meddai trefnydd y Gwobrau, Owain Schiavone.
“Rydan ni bob amser am weld cymaint â phosib o bobl yn pleidleisio dros yr enillwyr er mwyn adlewyrchu cryfder y sin ar hyn o bryd, ac i sicrhau bod y gwobrau’n adlewyrchu barn y cyhoedd.”
Mae Llyfr Y Selar yn grynodeb da o’r flwyddyn gofiadwy â fu, ac yn anrheg Nadolig bach da i unrhyw un sydd wedi mwynhau’r caneuon, y bandiau a’r gigs dros y flwyddyn â fu. Neu beth am lyfr a thocyn i’r Gwobrau am ddim ond £20 fel anrheg Nadolig – bargen!
Rydan ni’n credu mai lansiad Llyfr Y Selar oedd y lansiad llyfr cyntaf i’w gynnal ar Facebook Live, ac mae’r ymateb wedi bod yn ardderchog hyd yma, gyda dros 2000 o bobl wedi tiwnio mewn ar dudalen Facebook Y Selar ar y noson.
Os nad oeddech chi’n un o’r rheiny, gallwch wylio’r digwyddiad unigryw nôl ar Facebook unrhyw bryd.
Mae modd pleidleisio ar dudalen Facebook Y Selar neu trwy ddilyn y ddolen yma.