Search site


OSHH yn rhyddhau sengl o’i albwm

20/12/2017 22:04

Mae’r artist electroneg OSHH wedi  rhyddhau sengl o’i albwm cyntaf a ryddhawyd ddechrau’r Hydref gan Recordiau Blinc.

Gwnaeth y penderfyniad yma’n dilyn yr ymateb cadarnhaol i'w albwm, ac mae'r sengl, ‘Sibrydion’, allan ers 15 Rhagfyr i'w lawr lwytho o wefan Recordiau Blinc

Prosiect Osian Howells o Ynys Môn yw OSHH, ac mae’n wyneb cyfarwydd iawn i bobl sy’n dilyn y SRG, gan ei fod hefyd yn aelod o Yr Ods.

Mae hefyd yn chwarae â band byw sy’n cynnwys Gwion Llewelyn (Villagers, Race Horses, Yr Ods), Griff Lynch (Yr Ods), ei frawd Guto Howells (Yr Eira) ac Ioan Llewelyn. 

Mae Recordiau Blinc hefyd yn cynnal cynnig arbennig ar y funud ar eu gwefan, gan gynnig pedwar CD Blinc am y pris o £19 (gostyngiad o 40%).