Search site


Mr Huw yn chwilio am dai

28/03/2010 22:11

Na, tydi o ddim wedi arallgyfeirio a phenderfynu dod yn asiant tai, ond mae Mr Huw yn cynllunio tai-th nesaf ei fand...ac nid taith gyffredin fydd hon! Nage wir, mae’r mistar Huwcyn yn bwriadu cyfres o gigs yn nhai a gerddi pobl Cymru, ac mae croeso mawr i chi gynnig eich aelwyd fel lleoliad ar y daith.

Mae’r stori lawn yna ar wefan newyddion Golwg360, felly ‘nawn ni ddim gwastraffu gormod o eiriau fan hyn, ond dyma ran o gais Mr Huw i chi am wahoddiad, “da ni isho trefnu taith tai, chwarae yn tŷ pobol. Barbaciw, penblwydd Nain, soundtrack i'ch cinio dydd sul, neu jyst dod i chwarae i'ch tŷ.
yr unig beth da ni'n ofyn amdan ydi rwla i grasho, bo chdi'n gaddo meddwi ni fatha petha gwirion a llenwi'n bolia ni efo beth bynnag sgin ti yn dy ffrij, cwpwrdd moddion neu efo'r petha afiach sy'n tyfu o dan dy wely budur.” Sut allwch chi anwybyddu’r fath gais d’wedwch!

Mae’r daith yn cael ei threfnu i hyrwyddo albwm diweddaraf Mr Huw sydd wrthi’n cael ei recordio ar hyn o bryd. Ella fydd ganddo ni fwy o wybodaeth cyffrous am yr albwm yma’n fuan hefyd...

Os ydach chi isho cynnig llwyfan i un o gigs taith arbennig Mr Huw, yna syrffiwch draw i’w dudalen MySpace o am fwy o wybodaeth - www.myspace.com/ymrhuw