Search site


Huw Stephens v Gareth yr Epa v Sôn am Sîn – Disgo Distaw Gwobrau’r Selar

14/02/2018 14:28

Gyda’r rhestrau bron yn gyflawn (dwy olaf i’w cyhoeddi heno!), rydan ni bellach yn gwybod pwy sy’n brwydro am deitlau Gwobrau’r Selar eleni.

Ond bydd un frwydr newydd yn digwydd ar noson Gwobrau’r Selar eleni – sef brwydr Disgo Distaw y Gwobrau!

Fel ychwanegiad newydd i’r arlwy, byddwn yn cynnal Disgo Distaw rhwng 19:00 a 23:00 ar noson Wobrau’r Selar, gyda chyfle i ddewis o dri mics wedi eu paratoi gan DJs amrywiol iawn!

Mae dau o DJs ein Disgo Distaw ar restr fer categori Cyflwynydd Gorau Gwobrau’r Selar eleni, sef y DJ Radio Cymru a Radio 1, Huw Stephens, a’r anfarwol Gareth yr Epa o Hansh.

Wedi eu taflu mewn i’r pair hefyd mae Geth a Chris o flog a phodlediad gwych Sôn am Sîn, gan gynnig brwydr tair ffordd ddifyr dros ben. Bydd modd i pawb ddewis pa set i wrando arno dros eu hunain, a newid o un mics i’r llall – a gallwn eich sicrhau  bod y setiau i gyd yn lot o hwyl!

Mae nifer cyfyngedig o docynnau Gwobrau’r Selar ar ôl yn rhai o’r siopau ar hyn o bryd, ond yn brin iawn bellach.