Search site


Huw M a Llwyd i gydweithio eto

16/03/2010 21:51

 

Mae’r Selar wedi cael ar ddeall fod yr artistiaid Huw M a Llwyd wedi dechrau cydweithio ar ddeunydd newydd.

Mae’r ddau yn hen lawiau – roedden nhw yn aelodau o’r band Ysbryd Chouchen / Chouchen, ac ers dechrau cyfansoddi’n unigol maen nhw wedi cydweithio i ryddhau dwy sengl sef ‘Rhywbeth Dros Dro’ a ‘Dechrau yn y Dechrau’.

Bu’r Selar yn siarad â Huw M a ddywedodd “da ni wedi penderfynu gweithio ar fwy o ganeuon efo'n gilydd ac yn y broses o gyd-gyfansoddi ar hyd y draffordd dechnolegol ar hyn o bryd, gyda Crewe yn chwarae rhan bwysig fel man cyfarfod yn y canol!”

Dydyn nhw ddim wedi penderfynu’n union ar fformat y deunydd newydd eto meddai Huw, “da ni'n anelu i ryddhau CD o fath - boed yn EP neu'n albwm, gyda golwg i'w ryddhau yn hwyrach ymlaen eleni gyda gigs i gyd-fynd efo'r rhyddhad. Y gobaith ydy i greu rhywbeth gweledol yn ogystal a chlywedol wrth i ni geisio cofnodi'r daith 'da ni newydd ei ddechrau.” Rhywbeth i edrych ymlaen iddo felly’n sicr.

Cafodd Huw M flwyddyn arbennig o brysur yn 2009 gan gigio’n helaeth a rhyddhau ei albwm cyntaf, Os Mewn Sŵn, i’w lawr lwytho ar i-tunes. Fe wobrwywyd ei waith caled yn ddiweddar wrth iddo hawlio coron ‘Artist Unigol Gorau’ yng ngwobrau’r Selar 2009. Mae 2010 yn addo bod yr un mor brysur iddo hefyd, gan ei fod wedi datgelu i’r Selar fod Os Mewn Sŵn i’w ryddhau’n swyddogol ar label Gwymon yn fuan – bydd yr albwm ar gael i’w prynu yn y siopau fis Mehefin.