Search site


Crazy Mountain People yn cael brêc

16/03/2010 21:48

Mae’r Selar yn teimlo braidd yn siomedig o glywed fod y band ifanc o Benmachno, Crazy Mountain People, wedi penderfynu cymryd egwyl o’r band am y tro.

Rhoddwyd sylw arbennig i’r grŵp yn rhifyn mis Rhagfyr 2009 Y Selar, wrth i ni eu dewis fel un o fandiau ‘Dau i’w Dilyn’. Fe ddaethant i amlygrwydd yn ystod haf 2009, a llwyddo i greu cryn argraff wrth berfformio yng Ngŵyl Gwydir, Llanrwst fis Medi.

Meddai’r band wrth Y Selar, “rydan ni wedi cymryd brêc am dymor byr gan fod Ben a Hef yn eistedd eu harholiadau TGAU yn y dyfodol agos. Rydan ni’n dal i sgwennu a recordio rhywfaint, ond dim gigio am y tro, sy’n biti gan ein bod ni wedi cael cynnig nifer o gigs da yn ddiweddar”.

Ond, na phoener, fyddan nhw nôl yn gigio’n fuan “rydan ni’n gobeithio dechrau gigio eto yn yr haf, ac mae ganddo ni un gig mawr ym Manceinion wedi leinio fyny’n barod gobeithio.”