Search site


Adolygiad: Caru Gwaith (Dim y life) - W H Dyfodol

18/12/2017 21:42

Weithiau mae cân yn siarad â chi. Bydd unrhyw un sydd yn gyfarwydd ag undonedd joban swyddfa naw tan bump yn gwerthfawrogi sengl ddiweddaraf W H Dyfodol (Y Pencadlys gynt). A bydd unrhyw un sydd yn cael y fraint o gael eu cludo at y fath artaith gan drafnidiaeth gyhoeddus yn gwerthfawrogi fideo Griff Lynch sydd yn cyd-fynd â’r gân hefyd!

Mae undonedd bwriadol y gerddoriaeth yn gweddu’n berffaith i gynnwys y geiriau ac mae’r sengl yn arddangos gallu heb ei debyg Haydon Hughes o orfodi riffs cofiadwy i mewn i’ch ymennydd trwy’r dechneg syml o ail adrodd.

Cyffyrddir â thema bwysig a chyfredol, anghyfartaledd cyflogau dynion a merched yn y geiriau dychanol “Mae hi’n gweithio’n galed am ei harian ond dwi’n gweithio am fwy a dwi’n gweithio yn well.”

Tiwn.

Gwilym Dwyfor