Search site


10 Uchaf: Caneuon Gorau Heather Jones

12/02/2018 20:48

Nos Wener yma, 16 Chwefror, mewn gig arbennig yn Aberystwyth fe fyddwn ni'n talu teyrged i Heather Jones, gan nodi'r cyfraniad aruthrol mae wedi gwneud i gerddoriaeth Gymraeg dros yr hanner canrif a mwy diwethaf. 

Yn perfformio ar lwyfannau Cymru ers 1964, gan ryddhau ei chynnyrch unigol cyntaf union hanner can mlynedd yn ôl, mae hirhoedledd y gantores yn un o'r pethau rhyfeddol am Heather. 

Un o'r pethau eraill ydy'r rhestr hir o ganeuon gwych mae wedi eu cyhoeddi dros y degawdau. I brofi hyn, doedd dim amdani ond cynnal pleidlais i ddewis 10 Cân Orau Heather Jones wythnos diwethaf...ac mae'r canlyniadau wedi cyrraedd gyfeillion! 

Mae ambell gân amlwg iawn ar goll o'r rhestr, gan gynnwys dwy o'r enwocaf - 'Jiawl' a 'Penrhyn Gwyn' - yn ogystal â thiwns gwych eraill fel 'Calon fel Olwyn' a 'Mae'r Galon Hon'. Ond ysbryd democrataidd Gwobrau'r Selar, chi sydd wedi dewis, ac mae'r caneuon sy'n eisiau jyst yn pwysleisio cryfder ôl-gatalog Heather. Dyma nhw....

10 Uchaf Caneuon Heather Jones

 

10. Mae Hiraeth yn Fy Nghalon

 

 

9. Mynd yn Ôl i’r Dre

 

 

8. Syrcas o Liw

 

 

7. Cwsg Osian

 

 

6. Ble’r Aeth yr Haul

 

 

5. Cân i Janis

 

 

4. Nos Ddu

 

 

3. Pan Ddaw’r Dydd

 

 

2. Cwm Hiraeth

 

 

1. Colli Iaith