Search site


Pump i'r Penwythnos - 02/03/18

02/03/2018 10:43

Gig: Lleuwen, Blodau Gwylltion – Amgueddfa Ceredigion – 04/03/17

A hithau’n benwythnos Gŵyl Dewi, roedd llawer o gigs wedi’u trefnu ar gyfer y penwythnos yma...ond yn anffodus mae nifer ohonynt wedi eu gohirio oherwydd y tywydd garw. Brrrrr.

Dyma rai sydd dal yn digwydd wrth i ni gyhoeddi’r darn yma, ond cadwch olwg ar gyfryngau amrywiol y trefnwyr cyn mentro allan...

Heno mae noson poptastig yn Pontio ym Mangor gydag Eden ac Elin Fflur yn perfformio – drysau am 20:00.

*Claxon gig am ddim!*, hefyd heno yn y Moon yng Nghaerdydd bydd Ffug yn chwarae gyda chefnogaeth am 19:00.

Gohirio ydy hanes gig Argrph, Lastigband a Bitw yng Nghwb Ifor Bach heno, a hefyd Fleur de Lys, Mei Emrys a Bwca yn Llanbed nos fory.

Mae’r rhan fwyaf o gigs taith fer Lleuwen y penwythnos yma – yn Acapela, Pentyrch; Neuadd Pantycelyn Llanymddyfri ac yn Galeri Caernarfon neithiwr - wedi eu gohirio hefyd yn anffodus, ond yr un gig sydd dal ymlaen ar hyn o bryd ydy hwnnw yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth bnawn Sul am 17:00. Mae’n addo bod yn gig arbennig iawn gan bod prosiect cerddorol ei chwaer (Manon Steffan Ros) sef Blodau Gwylltion yn cefnogi.  

Cân: Siom - Bitw

Am yr eilwaith, mae Bitw ‘di gollwng bangar o sengl arall sef ‘Siom’ yn ddigidol ddoe (1 Mawrth), ar ddiwrnod ein nawddsant cenedlaethol. Fe ryddhawyd eu sengl gyntaf fis Rhagfyr fel rhan o gynllun Senglau Sain sef ‘Gad i mi Gribo Dy Wallt’. Yn ôl y sôn, blas yw’r gân newydd o’r hyn sydd i ddod ar yr albwm sydd ar fin cael ei recordio.

Disgrifir y sengl fel 3 munud a 43 eiliad o bop lletchwith, sy’n cynnwys lleisiau Mari Morgan ac Owain Rhys Lewis arno. Prosiect Gruff ab Arwel (Klep Dim Trep) ydy Bitw, ac os yw’r albwm yn dod yn agos i safon yr hyn ‘da ni wedi’i glywed yn barod ganddo, mae’n siŵr o fod yn felys i’r glust. 

 

Record: Gwenno – Le Kov

Mae albwm Gernyweg cyntaf Gwenno allan yn swyddogol heddiw ar Heavenly Records sef Le Kov.

Cyhoeddwyd fideo i ‘Tir Ha Mor’ sy’n cyfieithu i ‘Tir a Môr’ dros fis yn ôl, ac mae eisoes wedi denu dros ddeg mil o bobl i’w wylio. Wrth i Gwenno ddisgrifio’r gân, dywed ei bod hi’n iawn i ddanwsio i dy ganeuon dy hun weithiau...a sut mae peidio i’r gân yma?! Prynwch yr albwm fan hyn.

 

Artist: Adwaith

Cyhoeddwyd fideo i un o’r senglau diweddara’ gan Adwaith ‘Fel i Fod’ ar YouTube yn gynharach yr wythnos yma. Rhyddhawyd y sengl ddwbl ‘Fel i fod/Newid’ allan 16 Chwefror ar label Libertino.

Mae’n argoeli i fod yn flwyddyn dda arall i’r triawd ‘ôl-pync’ o Gaerfyrddin gan bod albwm ar y ffordd ganddynt, eu record hir gyntaf.

Cadarnhawyd lein-yp gwych arall ar gyfer gig yn cynnwys Adwaith gan Y Parrot wythnos yma hefyd, gyda Mellt a Cpt. Smith yn ran o’r arlwy hefyd. Rhywbeth cyffrous i’r calendr byrlymus o gigs.

Dyma’r fideo diweddara’:

 

Un peth arall..: Gwobr Gerddorol Llwybr Llaethog

Ers rhyw bedair blynedd bellach mae John a Kevs, aelodau’r grŵp amgen gwych, Llwybr Llaethog, wedi bod yn dyfarnu eu ‘Gwobr Gerddorol’ i rywun am eu cyfraniad arbennig i gerddoriaeth Gymreig.

Mae’r enillydd yn derbyn gwobr wedi ei chreu gan John a Kevs eu hunain, a neithiwr fe gyhoeddwyd yr enillydd eleni.

Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys Meic Sbroggs (2017), Dau Cefn (2016), Y Pencadlys (2015) a Rhys Jakokoyak (2014).

Ac yr enillydd teilwng iawn eleni ydy neb llai ma Mr Phormula. Yn dilyn rhyddhau ei albwm anhygoel, Llais, llynedd a cynnal fflam hip hop Cymraeg ers blynyddoedd, allwn ni yn Y Selar ddim meddwl am neu sy’n fwy haeddiannol – parch i Edz.

Dyma’r ardderchog ‘Cwestiynau’ o’r albwm Llais: