Search site


 

 
Darllenwch y rhifyn diweddaraf nawr wrth glicio ar y llun uchod - archif ar gael yno hefyd.

Lle mae modd derbyn copi o'r Selar?

Prif gyntedd Prifysgol Bangor, Undeb Coleg y Drindod, Undeb Prifysgol Abertawe, Neuadd Pantycelyn Aberystwyth, Llyfrgell Coleg Meirion Dwyfor (Pwllheli a Dolgellau), Neuadd Fwyd Coleg Menai Bangor, Clwb Ifor Bach, Swyddfeydd Mentrau Iaith Cymru, Siopau Cymraeg ar draws Cymru, Ysgolion Uwchradd ar draws Cymru (6ed dosbarth yn bennaf), Gwersyll yr Urdd Glan Llyn, Gwersyll yr Urdd Llangrannog, Gwersyll yr Urdd Bae Caerdydd a nifer o leoliadau amrywiol eraill ....

Lleoliadau sy'n derbyn copiau o'r Selar.doc (71,5 kB)

 

GWOBRAU'R SELAR

Mae Gwobrau'r Selar - un o ddigwyddiadau byw mwyaf cerddoriaeth gyfoes Cymru - yn cael ei gynnal yn Aberystwyth ar benwythnos 16-17 Chwefror.
 
Bydd prif noson Gwobrau'r Selar yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar nos Sadwrn 17 Chwefror - gweler y lein-yp gwych isod. 
 
Dathlu cyfraniad Heather Jones
 
Yn ogystal â hynny, byddwn yn cynnal Gig Cyfraniad Arbennig gydag enillydd y wobr honno eleni, Heather Jones, yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth ar nos Wener 16 Chwefror. Bydd yr anhygoel Alys Williams yn cefnogi Heather ar y noson. 
 
 
 

Os hoffech dderbyn copi uniongyrchol o'r Selar drwy'r post yna cliciwch ar y linc paypal isod - oherwydd cynnydd yn y cost post yn anffodus mae'n rhaid i ni godi ffi am danysgrifiad uniongyrchol am flwyddyn sef £8 :  hysbysebionyselar@gmail.com 

 

 

 

NEWYDDION

Ffair Recordiau, Heather ac Anweledig @ 25 - Dydd Sadwrn Gwobrau'r Selar

07/02/2018 21:31
Mae Gwobrau’r Selar bellach wastad wedi bod yn dipyn mwy na dim ond noson wych o gerddoriaeth fyw, ac mae'n draddodiad bellach  i gynnal llwyth o weithgareddau ar ddydd Sadwrn y Gwobrau. Bydd...

Brawd a chwaer yn brwydro am wobr Offerynnwr Gorau

04/02/2018 07:53
Mae brawd a chwaer dalentog yn y frwydr am un o gategorïau Gwobrau’r Selar eleni, wrth i ni gyhoeddi’r rhestrau byr diweddaraf ar gyfer eleni. Cyhoeddwyr y rhestr fer ar gyfer categori’r ‘Offerynnwr...

Pump i’r penwythnos 02/02/18

02/02/2018 16:44
Gig: Tri Hwr Doeth (hip hop byw) yn Rascals, Bangor Gan bod Dydd Miwsig Cymru’n agosáu, braidd yn brin yw’r gigs y penwythnos yma o ganlyniad. Ond mae cyfle i weld Pasta Hull yn gwneud setiau hip...
<< 3 | 4 | 5 | 6 | 7 >>